Senedd Cymru

Welsh Parliament

Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Economy, Trade and Rural Affairs Committee

Blaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd

Priorities for the Sixth Senedd.

ETRA - 57

Ymateb gan: Compass Cymru

Evidence from: Compass Wales

 

 

Blaenoriaethau ar gyfer Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Yma, yn Compass Cymru, rydym wedi ymrwymo i gefnogi’r economi, pobl a chymunedau Cymru trwy ein gweithrediadau yn y sector lletygarwch. Rydym yn ddiolchgar am y cyfle i fewnbynnu i flaenoriaethau'r Pwyllgor ar gyfer sesiwn newydd y Senedd. Mae yna nifer o feysydd teimlwn a ddylent fod yn flaenoriaethau strategol ac yn amcanion yn yr hir dymor.

Cynaliadwyedd a ‘Net Zero’

Mae Compass Group UK ac Iwerddon wedi ymrwymo i gyrraedd Hinsawdd Sero Net erbyn 2030 a byddem yn awgrymu y dylai'r Pwyllgor ymchwilio i'r ffordd orau y gall y Senedd, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol gefnogi busnesau eraill yn effeithiol i gyflawni ac i ddarparu addewidion tebyg. Ar lefel ledled y DU, rydym wedi cyhoeddi cronfa fuddsoddi gychwynnol o £ 1 miliwn i gefnogi datblygiad mentrau lleihau carbon a chynhyrchu bwyd cynaliadwy. Fel rhan o'r gwaith yma, rydym wedi ymrwymo i gydweithredu a chynnal trafodaeth agored a hoffem gynnig ein gwybodaeth a'n profiad, pe bai hynny'n ddefnyddiol.

Dylai cynaliadwyedd hefyd fod yn allweddol i system gynhyrchu a’r defnydd o fwyd yng Nghymru yn y dyfodol a dylai'r Pwyllgor ystyried hyn fel amcan tymor hir yn y sector breifat a’r sector gyhoeddus, gan gefnogi’r defnydd o fwyd lleol a thymhorol. Mae gan Gymru stȏr naturiol o gynnyrch gwerthfawr ac mae manteisio ar ei ddefnydd yn hanfodol i'r blaned ac i’r economi yng Nghymru. Mae angen archwilio datblygiad y tir ar gyfer cynhyrchu bwyd ac archwilio dulliau ffermio mwy arloesol ar y cyd â darparwyr gwasanaethau bwyd.

Datblygiad sgiliau, yr economi leol a’r gweithlu

Hoffem i'r Pwyllgor archwilio’r ffordd orau i gynnig hwb i economïau rhanbarthol a chenedlaethol Cymru fel amcan hir dymor angenrheidiol. Mae'r diwydiant lletygarwch ledled y DU gyfan yn dioddef gyda phroblemau llogi a chadw'r gweithlu. Dylid ystyried y sector hwn yn flaenoriaeth, a dylai'r Pwyllgor ymchwilio i adolygu’r cyfyngiadau sy’n bodoli ar feini prawf cymhwysedd ar gyfer hyfforddiant a chyllid.

Wrth inni symud allan o'r pandemig ac addasu i'r rheolau sy'n gysylltiedig â Brexit, mae hyn yn bwysicach nag erioed. Yn y tymor byr, dylid blaenoriaethu’r ymchwil ynghylch  sut i wneud Cymru yn lle dymunol i weithio ynddi, a sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gyflawni'r nod hwn ac i gefnogi cyflogwyr a busnesau lleol.

Yn Compass Cymru, rydym yn falch o'n hymrwymiad i ddatblygu prentisiaethau ledled Cymru. Fel y bydd y pwyllgor yn ymwybodol, mae prentisiaethau yn ffordd arbennig o feithrin talent leol tra’n cefnogi menterau lleol. Dylid annog a chymell busnesau ledled Cymru i logi prentisiaid a dylai'r pwyllgor edrych ar enghreifftiau o ragoriaeth a fydd yn arwain y ffordd i eraill.

Fel y soniais, byddai Compass Cymru yn croesawu’r cyfle i gynnig a rhannu ein harbenigedd yn y meysydd yma. Mae croeso i chi gysylltu ar unrhyw adeg.

Yn gywir,

Jane Byrd,

Prif Cyfarwyddwr, Compass Cymru